Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Chwefror 2023
Amser:
11.00 -
17.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13414
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS Jane Hutt AS |
Tystion: |
Paul Neave, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan, Clerc Rachael Davies, Clerc Angharad Roche, Dirprwy Glerc Gareth Thomas, Ymchwil |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiadau o fuddiant gan Sarah Murphy, Sioned Williams a Jenny Rathbone.
2 Dyled ac effaith costau byw cynyddol: sesiwn dystiolaeth rhif pedwar
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Cymru, Ymddiriedolaeth Trussell.
3 Dyled a chostau byw: Sesiwn dystiolaeth weinidogol gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Jane Hutt AS
Paul Neave, Pennaeth Cyngor Lles Cymdeithasol a Pholisi'r Adran Gwaith a Phensiynau
4 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
4.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r Eidal ynghylch cydnabod trwyddedau gyrru yn gilyddol at ddibenion cyfnewid.
4.2 Gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog, y Trefnydd a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
5 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod cyfan y Pwyllgor ar 6 Mawrth
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
6 Dyled a chostau byw: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Ymatebion rhyngwladol i bwysau costau byw
Trafododd yr Aelodau bapur ar ymatebion rhyngwladol i bwysau costau byw.
8 Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol: trafod yr adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft cyn cytuno arno, yn amodol ar fân newidiadau.
9 Profiadau pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder troseddol: trafod y materion o bwys
Trafododd yr Aelodau y materion o bwys a amlygwyd yn yr ymchwiliad i brofiadau pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder troseddol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
10 Atal trais ar sail rhywedd: Papur dulliau ymgysylltu
Trafododd yr Aelodau y papur dulliau ymgysylltu cyn cytuno arno.